Mae Sea Trust Wales yn lansio ein Profiad Realiti Rhithwir newydd sbon ynghyd â’n Hystafell Ddarganfod yn y Labordy Cefnfor yng Ngwdig yn swyddogol. Mae’r profiad a’r ystafell addysgu yn rhan o’n prosiect newydd – Discover Môr.
Nod y prosiect yw cysylltu pobl â’n byd morol, gan ei gwneud hi’n bosib i bobl o bob oedran ddysgu am y cefnfor a chynyddu ymwybyddiaeth am yr holl amrywiaeth wych ym moroedd Sir Benfro ac ysbrydoli pobl i ofalu am yr amgylchedd morol.
Meddai Rheolwr y Prosiect, Holly Dunn: “Mae hyn yn brosiect cyffrous i’r Sea Trust. Mae’r Profiad Realiti Rhithwir yn brofiad addysgol sy’n ehangu mynediad at amgylchedd morol Sir Benfro. Mae cyfranogwyr yn cael eu trochi yn y byd tanddwr, gan ddysgu am ein bywyd morol a chael persbectif newydd ar ein Cefnfor.”
Gellir archebu Profiad Realiti Rhithwir ar-lein drwy ein gwefan (www.seatrust.org.uk) neu wrth ddesg dderbynfa’r Sea Trust. Mae’r Ystafell Ddarganfod am ddim ac mae’n cynnwys microsgopau, cornel chwarae i blant bach a gweithgaredd archwilio pyllau rhithwir addysgol – Pwll y Môr.
Mae ein Swyddog Addysg ac Allgymorth, Nadia, sy’n gweithio ar y prosiect, yn datblygu rhaglen i fynd â’r Profiad Realiti Rhithwir i ysgolion lleol. Os hoffech chi gael gwybod rhagor, cysylltwch drwy e-bostio nadia@seatrust.org.uk.
Diolch i’n cyllidwyr hael, Sefydliad Waterloo a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sydd wedi gwneud prosiect Discover Môr yn bosib. Hoffem ni hefyd ddweud diolch yn fawr i JWJT Media am greu’r Profiad Realiti Rhithwir a gweithio’n galed i ffilmio bywyd morol hyfryd Sir Benfro dros y misoedd diwethaf, i LoJack Images am ei ffotograffiaeth ac i Celtic Deep am eu cyfraniad at ffilmio drwy fynd â ni allan ar y cwch.
Mae ein tîm o Wirfoddolwyr Cynhaliaeth hefyd yn haeddu cydnabyddiaeth arbennig am eu holl ymdrechion yn paratoi’r Ystafell Ddarganfod, gan ofyn am de a bisgedi’n unig fel tâl! Rydych chi’n wych!


