Ocean Guardians
Sea Trust is delighted to be awarded funding by Natural Resources Wales (NRW) for our Ocean Guardians project. This project involves working with fishers to tackle the issue of plastic waste in our local seas. Read in English / Darllen yn SaesnegRead in Welsh / Darllen yn GymraegOcean Guardians
Sea Trust is delighted to be awarded funding by Natural Resources Wales (NRW) for our Ocean Guardians project. This project involves working with fishers to tackle the issue of plastic waste in our local seas. Sea Trust was awarded £20,000 and is working with local group Ocean Guardians Fishguard & Goodwick. The funding will employ a part-time Project Officer who will run the project and facilitate communication with fishers, local community, the local authorities and private companies e.g. bait suppliers. Local marine biology graduate Lloyd Nelmes was recently appointed as the Project Officer.
Our aim is to work with the local fishing community to determine the main barriers and come up with solutions to collect and dispose of marine litter in Fishguard Harbour and Fishguard Lower Town Harbour. The project also aims to reduce the amount of single-use plastic used by the local fishing industry and local businesses.
We will be encouraging local businesses to become Ocean Guardians and sign our pledge to reduce use of single use plastic. More news on this will be available shortly.
Project Manager Anna Elliott says “The issue of plastic waste in our oceans is becoming increasingly evident and more people than ever are aware of this and want to make a difference. Our new project Ocean Guardians is exciting because it involves working with fishers to get their advice and help in tackling marine litter. We are aiming to design a method of marine litter collection and disposal that works for local pot fishers and we are also exploring alternative fishing industry products that do not require single use plastic”.
Rowland Sharp of Natural Resources Wales said:
“Natural Resources Wales’ purpose is to ensure that the environment and natural resources are maintained, enhanced and used. We recognise that we cannot do this alone and there is enormous value in developing projects with partners.
The Ocean Guardian’s plastic waste project will help tackle one of the worst crises facing our marine environment here in Wales.
We wish Lloyd every success in his new job, working with local fishing communities and businesses to find practical ways to reduce marine litter.”
If you are a local fisherman please get in touch with Lloyd at the Ocean Lab. Either pop into the Ocean Lab or call on 01348 874737, email lloyd@seatrust.org.uk. We are also looking for volunteers to assist with this project. If this is a topic that interests you, please get in touch.
Funded by Natural Resources Wales (NRW)
Gwarchodwyr y Cefnfor
Mae Sea Trust wrth ei fodd i gael arian gan Gyfoeth Naturiol Cymru (NRW) ar gyfer ein prosiect Gwarchodwyr y Cefnfor. Mae’r prosiect hwn yn golygu gweithio gyda physgotwyr i fynd i’r afael â phroblem gwastraff plastig yn ein moroedd lleol. Dyfarnwyd £20,000 i Sea Trust ac mae’n gweithio gyda grŵp lleol Gwarchodwyr y Cefnfor Abergwaun ac Wdig. Bydd y cyllid yn cyflogi Swyddog Prosiect rhan amser a fydd yn rhedeg y prosiect ac yn hwyluso cyfathrebu â physgotwyr, y gymuned leol, yr awdurdodau lleol a chwmnïau preifat e.e. cyflenwyr abwyd. Yn ddiweddar, penodwyd y raddedig bioleg forol lleol, Lloyd Nelmes, fel Swyddog Prosiect.
Ein nod yw gweithio gyda’r gymuned bysgota leol i benderfynu ar y prif rwystrau a dod o hyd i atebion i gasglu a gwaredu sbwriel morol yn Harbwr Abergwaun a Harbwr Tref Isaf Abergwaun. Nod y prosiect hefyd yw lleihau faint o blastig untro a ddefnyddir gan y diwydiant pysgota lleol a busnesau lleol.
Byddwn ni’n annog busnesau lleol i ddod yn Warchodwyr y Cefnfor a llofnodi ein haddewid i leihau’r o blastig defnydd sengl. Bydd rhagor o newyddion ar hyn ar gael cyn bo hir.
Meddai’r Rheolwr Prosiect, Anna Elliott, “Mae’r mater o wastraff plastig yn ein cefnforoedd yn dod yn gynyddol amlwg ac mae mwy o bobl nag erioed yn ymwybodol o hyn ac eisiau gwneud gwahaniaeth. Mae ein prosiect newydd Gwarchodwyr y Cefnfor yn gyffrous oherwydd ei fod yn golygu gweithio gyda physgotwyr i gael eu cyngor a chymorth wrth fynd i’r afael â sbwriel morol. Rydym yn anelu at ddylunio dull o gasglu a gwaredu sbwriel morol sy’n gweithio i bysgotwyr pot lleol a hefyd rydym yn archwilio cynhyrchion amgen ar gyfer y diwydiant pysgota nad ydynt yn galw am blastig defnydd sengl”.
Dywedodd Rowland Sharp o Gyfoeth Naturiol Cymru:
“Nod Cyfoeth Naturiol Cymru yw sicrhau bod yr amgylchedd ac adnoddau naturiol yn cael eu cynnal, eu gwella a’u defnyddio. Rydym yn cydnabod na allwn ni wneud hyn ar ein hunain ac mae’n werthfawr iawn i ddatblygu prosiectau gyda phartneriaid.
Bydd prosiect gwastraff plastig Gwarchodwyr y Cefnfor yn helpu i fynd i’r afael ag un o’r argyfyngau gwaethaf sy’n wynebu ein hamgylchedd morol yma yng Nghymru.
Dymunwn bob llwyddiant i Lloyd yn ei swydd newydd, yn weithio gyda chymunedau pysgota a busnesau lleol i ddod o hyd i ffyrdd ymarferol o leihau sbwriel morol.”
Os ydych chi’n bysgotwr lleol, cysylltwch â Lloyd yn Labordy’r Cefnfor. Gallwch naill ai alw heibio i Labordy’r Cefnfor neu ffonio ar 01348 874737, neu e-bostio lloyd@seatrust.org.uk Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda’r prosiect hwn. Os yw hwn yn bwnc sydd o ddiddordeb i chi, cysylltwch â ni.
Back to projects & research
Read about our other research projects.